Fe ddaeth cadarnhad mai cyn-gynghorydd Ceidwadol 73 oed sydd wedi marw yn ne Lloegr yn dilyn ymosodiad ciaidd.

Daethpwyd o hyd i gorff Gerard White o Sandown, Ynys Wyth, mewn coedwig yng ngerddi cymunedol Lake brynhawn Llun (Mai 27).

Mae dyn 60 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae’n dal i gael ei holi yn y ddalfa.

Mae Heddlu Hampshire wedi cadarnhau fod y ddau ddyn yn nabod ei gilydd.