Y Gweinidog Tai, Kit Malthouse, yw’r diweddaraf i ymuno â’r ras i olynu Theresa May yn arweinydd y Blaid Geidwadol.

Mae’r Aelod Seneddol tros Ogledd-orllewin Hampshire yn fwyaf adnabyddus fel y gŵr a unodd aelodau o’r ddwy garfan Brexit o fewn y Blaid Geidwadol er mwyn ffurfio’r ‘Cyfaddawd Malthouse’. Roedd yn cynnig newid y rhan o gytundeb Brexit Theresa May sy’n ymwneud â Gogledd Iwerddon.

Kit Malthouse yw’r degfed unigolyn i gyhoeddi yn ystod y dyddiau diwethaf ei fod am ymgeisio am arweinyddiaeth ei blaid, ac mae’n wynebu cystadleuaeth gan unigolion blaenllaw fel Michael Gove, Matt Hancock a Boris Johnson.

Mae’r gŵr, 52, yn gyn-Ddirprwy Faer Llundain ac fe gafodd ei ethol yn Aelod Seneddol yn 2015 pan lwyddodd y Ceidwadwyr o dan arweiniad David Cameron i sicrhau mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mewn erthygl ym mhapur The Sun, dywed Kit Malthouse na ddylai’r ras am yr arweinyddiaeth fod yn un sy’n cynnwys “yr un hen wynebau” yn unig.

Yn y refferendwm Brexit yn 2016, fe bleidleisiodd Kit Malthouse o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae wedi addo brwydro tros gytundeb rhwng gwledydd Prydain a’r Undeb.