Mae Jeremy Corbyn o dan bwysau gan rai o ffigyrau blaenllaw y Blaid Lafur wrth iddyn nhw gwestiynu ei pholisi ynglŷn â Brexit.
Daw yn dilyn colledion trwm i’r Blaid Lafur yn etholiadau Ewrop, gyda’r blaid yng Nghymru yn colli etholiad am y tro cyntaf ers canrif.
Ymhlith yr unigolion sy’n galw ar Jeremy Corbyn i gefnogi ail refferendwm Brexit mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Tom Watson, canghellor yr wrthblaid, John McDonnell a’r ysgrifennydd Brexit cysgodol, Keir Starmer.
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, hefyd wedi cyhoeddi ei fod bellach o blaid ail refferendwm, ac y byddai Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu tros Aros pe bai un yn cael ei gynnal.
“Yn wyneb Brexitwyr caled y Blaid Geidwadol, mae Llafur Cymru yn credu y dylai’r penderfyniad terfynol fod yn nwylo’r cyhoedd mewn refferendwm,” meddai Mark Drakeford.
“Ac i gael gwared ar unrhyw amheuon, fe fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn ymgyrchu, mewn pleidlais o’r fath, o blaid Cymru yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
“Fe fyddwn ni’n gweithio ag eraill sy’n ceisio cael canlyniad tebyg.”