Mae tri llanc wedi cael eu harestio yng Ngogledd Iwerddon ar ôl i fomiau petrol gael eu taflu at swyddogion yr heddlu ger gorsaf bleidleisio.
Cafodd yr heddlu eu galw ar ôl i ddyfais amheus gael ei gweld ger ysgol yn y Deri oedd yn cael ei defnyddio fel gorsaf bleidleisio yn yr etholiadau Ewropeaidd.
Ar ôl i’r heddlu gyrraedd fe ddechreuodd yr ymosodiad arnyn nhw. Mae Heddlu Gogledd Iwerddon yn credu bod yr heddlu wedi cael eu targedu’n fwriadol gan yr ymosodwyr.
Roedd un o’r bomiau petrol wedi glanio’n agos at barc lle’r oedd plant yn chwarae, meddai’r heddlu.
Cafodd dau lanc 17 oed a bachgen 12 oed eu harestio mewn cysylltiad â’r anhrefn. Maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa tra bod ymchwiliad yr heddlu’n parhau.
Dyma’r ail ddigwyddiad o’i fath yn y gymuned yn dilyn trafferthion yno yn ystod etholiadau’r cynghorau lleol ar Fai 2.