Mae arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Andrea Leadsom, wedi gadael y Cabinet oherwydd cynnig Brexit y Prif Weinidog.
Ymddiswyddodd y Tori gyda “chalon drom”, gan ddweud nad yw bellach yn credu y bydd dull y Llywodraeth yn cyflawni canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd
Yn ôl Andrea Leadsom, doedd cynigion deddfwriaethol diweddar yn ymwneud â Brexit heb gael eu “harchwilio na’u cymeradwyo’n briodol gan aelodau’r Cabinet”.
Mae hi hefyd o’r farn yn na fydd gwledydd Prydain yn “wirioneddol sofran” drwy’r cytundeb, a byddai ail refferendwm yn creu rhaniadau.
Mae hyn yn taflu hyd yn oed mwy o bwysau ar Theresa May, sy’n anghytuno gydag asesiad y cyn gweinidog, ond sy’n flin am ei cholli.
“Dydw i ddim yn cytuno â chi fod y fargen rydym wedi’i thrafod gyda’r Undeb Ewropeaidd yn golygu na fydd y gwledydd Prydain yn dod yn wlad sofran,” meddai Theresa May.
Aeth hi ymlaen i ddweud ei bod yn cytuno y byddai ail refferendwm yn peri rhwyg, ond dywed nad oedd y Llywodraeth yn bwriadu cynnal un.