Rhybuddio y bydd ei holynydd yn wynebu’r un rhwystra
Mae’r Prif Weinidog Theresa May yn pledio ar Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (Dydd Mercher, Mai 22) i basio ei chytundeb Brexit.
Daw’r galw wrth iddi barhau i wynebu pwysau mawr gan Dorïaid iddi ymddiswyddo.
Mae Theresa May yn rhybuddio y bydd pwy bynnag sy’n llenwi ei esgidiau yn wynebu’r un math o bwysau i gael cefnogaeth i’w chytundeb ymadael.
Yn ei ddatganiad yn y Tŷ roedd hi’n ymddangos i gydnabod bod ei hamser yn y swyddfa yn brin gan ddweud y bydd hi’n gosod amserlen i’w hymadawiad ar ôl y bleidlais ar ei chynnig.
“Mewn ychydig amser fe fydd rhywun arall yn sefyll yn fan hyn,” meddai Theresa May wrth Aeloda Seneddol.
“Ond tra rwyf yma, mae gen i ddyletswydd i fod yn glir gyda’r Tŷ ynglŷn â’r ffeithiau.”
“Os rydym am sicrhau Brexit mae’n rhaid i ni basio’r cytundeb ymadael.”