Mae cwest wedi clywed sut y cafodd dyn ei ladd ar ôl i’w ben fynd yn sownd mewn rhan o sedd sinema.

Roedd Ateeq Rafiq, 24 oed, wedi mynd ar ei bengliniau i chwilio am ei allweddi a’i ffôn symudol pan ddechreuoedd rhan gorffwys traed y sedd gau am ei wddw.

Er i’w wraig fynd i chwilio am gymorth gan staff y sinema Vue yn Birmingham, fe gymerodd chwarter awr i’r rheiny lwyddo i’w ollwng yn rhydd.

Fe fu Ateeq Rafiq farw wythnos yn ddiweddarach o ganlyniad i anafiadau “catastroffig” i’w ymennydd.

Mae disgwyl i’r cwest barhau am wythnos.

Y cefndir

Mae 25 o sgriniau yng nghanolfan Vue yn  Birmingham, gyda lle i 5,000 o bobol.

Mae tair o’r sgriniau – rhai Aur fel yr un lle bu farw Ateeq Rafiq – wedi bod ynghau ers mwy na blwyddyn ers y digwyddiad.

Mae gan Vue sawl sinema mewn trefi yng Nghymru.