Bydd deddfwriaeth allweddol, a fydd yn sicrhau bod cytundeb Brexit Theresa May yn cael ei gymeradwyo, yn cael ei gyflwyno gerbron Aelodau Seneddol ddechrau’r mis nesaf, yn ôl Stryd Downing.
Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain gyflwyno’r Mesur Ymadael yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar Fehefin 3.
Daw yn dilyn trafodaethau rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, neithiwr.
Dywedodd Theresa May yn glir wrth Jeremy Corbyn ei bod hi am ddod â’r trafodaethau trawsbleidiol i ben er mwyn “darparu Brexit” ar sail canlyniad y refferendwm yn 2016.
Bydd y ddau yn wynebu ei gilydd yn Nhŷ’r Cyffredin yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn ddiweddarach heddiw.
Mae’n debyg bod Jeremy Corbyn wedi dweud yn blwmp ac yn blaen yn ystod y trafodaethau na fyddai’r Blaid Lafur yn cefnogi’r Mesur Ymadael heb gytundeb.
Mae arweinydd y DUP yn Nhy’r Cyffredin, Nigel Dodds, yn credu ei bod yn “debygol iawn” y byddai cytundeb Theresa May yn cael ei wrthod unwaith eto.