Mae cyn-arweinydd y Rhyddfrydwyr yn dweud ei fod yn “ryddhad” bod “dim sail” i gymryd camau yn ei erbyn.
Bu’r Arglwydd David Steel yn rhoi tystiolaeth ynglŷn â honiadau o gam-drin plant yn erbyn y cyn Aelod Seneddol, Syr Cyril Smith.
Roedd o wedi cael ei wahardd gan y blaid wrth i ymchwiliad gan Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) yn cael ei gyflawni.
Roedd yr Arglwydd Steel, cyn-lywydd Senedd yr Alban yn Holyrood, wedi dweud bod sgwrs gyda Syr Cyril Smith wedi gwneud iddo “dybio” bod yr honiadau yn ei erbyn yn gywir, ond bod y blaid heb ymchwilio iddynt.
Yna cafodd ymchwiliad mewnol ei gynnal gan brif weithredwr Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban.
Dywed arweinydd y blaid yn yr Alban, Willie Rennie, fod hyn wedi “penderfynu, ar ôl ystyried yn ofalus, nad oes sail dros gymryd camau yn erbyn David Steel”.