Y gyfres Killing Eve oedd y prif enillydd yng ngwobrau BAFTA neithiwr (nos Sul, Mai 13) ar ôl cipio tair gwobr.

Cafodd y gyfres gyfan ei henwi y ddrama gyfres orau, tra bo Jodie Comer wedi cipio’r wobr am yr actores orau, a Fiona Shaw y wobr am yr actores gynorthwyol orau.

Fe lwyddodd I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here a Britain’s Got Talent i ennill gwobrau hefyd, er gwaethaf absenoldeb Ant McPartlin o’r ddwy gyfres y llynedd.

Fe dderbyniodd Britain’s Got Talent y wobr am y sioe adloniant orau, a I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here wobr am y sioe realiti orau.

Yn cipio gwobr yr actor gorau oedd Benedict Cumberbatch am bortreadu’r cymeriad Patrick Melrose yn y gyfres o’r un enw a wnaeth hefyd gipio’r wobr am y gyfres fer orau.

Aeth y wobr am yr actor cynorthwyol gorau i Ben Whishaw am ei ran yn y gyfres ddrama, A Very English Scandal.

Cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal yn y Royal Festival Hall yn Llundain.