Mae dyn aeth ar ffo ar ôl cael ei amau o dreisio wedi gwrthod mynd gerbron ynadon.

Mae Joseph McCann, 34, wedi’i gyhuddo o gipio a threisio dynes yn Watford ddydd Sul, Ebrill 21.

Cafodd ei arestio yn Sir Gaer fore Llun, bythefnos ar ôl yr ymosodiad honedig.

Mae’r barnwr yn yr achos yn Llys Ynadon Westminster yn Llundain wedi awdurdodi’r defnydd o rym i’w ddwyn i’r llys ar ôl iddo wrthod gadael y ddalfa.

Fe fydd yn mynd gerbron y llys yfory (dydd Iau, Mai 9) drwy gyswllt fideo o garchar Belmarsh.