Mae pobol ledled Cymru’n cael eu hannog i gymryd rhan yn y digwyddiad parkrun mewn nifer o leoliadau ar draws Cymru ddydd Sadwrn (Mai 11).
Bydd digwyddiad ‘5k parkrun’ yn cael ei gynnal mewn 28 o leoliadau ym mhob cwr o’r wlad, gydag arweinwyr y gyfres FFIT Cymru i gyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad yn Niwbwrch ym Môn.
Bydd yr her yn dechrau am 9 o’r gloch y bore ym mhob un o’r lleoliadau.
“Mae parkrun yn gynllun gwych sy’n hyrwyddo iechyd, ffitrwydd a lles, o blant iau i oedolion, cerddwyr i redwyr, dechreuwyr i Olympaidd,” meddai Barry Edwards, Swyddog Datblygu Chwaraeon Cymunedol Cyngor Sir Ynys Môn.
“Fel cyfarwyddwr y digwyddiad yng Nghoedwig syfrdanol Niwbwrch, mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i wylio’r ffigurau cyfranogiad wythnosol yn tyfu o 30 i dros 300.
“Mae’n gynllun hudolus ac ysbrydoledig sy’n parhau i drawsnewid bywydau pobol er gwell bob wythnos.”
FFIT Cymru
Bydd y ‘parkrun 5k’ yn benllanw ar wythnosau o baratoi i’r rhai sydd wedi bod yn cymryd rhan yng nghyfres FFIT Cymru.
Mae’r pump arweinydd wedi bod yn gweithio tuag at y digwyddiad drwy gydol y gyfres, gan ddilyn cynlluniau bwyd a ffitrwydd trylwyr i’w helpu i godi eu lefelau ffitrwydd yn ogystal â cholli pwysau.
Mae Emlyn Bailey o Flaenau Ffestiniog, Mared Fôn Owen o Fodedern, Matthew Jones o Aberystwyth, Annaly Jones o Gaerfyrddin a David Roberts o Gaerffili wedi colli oddeutu saith stôn rhyngddyn nhw, diolch i arweiniad arbenigwyr y rhaglen, y dietegydd Sioned Quirke, yr hyfforddwr personol Rae Carpenter, a’r seicolegydd Dr Ioan Rees.
“Yn y bôn, bwriad Soffa i 5k yw cael pobl i symud eu cyrff ac i gael gôl derfynol ar ei diwedd hi i ennill yr her. Dyn ni mor eisteddog, ar ein ffonau neu’n gwylio’r teledu,” meddai Rae Carpenter.
“Roedd pobl yn dechrau sylweddoli bod byw bywyd eisteddog yn lladd mwy o bobl nag ysmygu ym Mhrydain. Oherwydd hynny, roedd yn ffordd i gael pobl oddi ar y soffa ac i ymarfer eu cyrff mewn ysbeidiau rhedeg a cherdded a symud y corff.”
Effaith amhrisiadwy
Dywedodd Prif Lysgennad Parkrun Cymru, Chris Davies, “Mae bod yn rhan o gymuned weithgar yn cael effaith amhrisiadwy ar les meddyliol a iechyd corfforol,” meddai Chris Davies, Prif Lysgennad Parkrun Cymru.
“Wrth ddilyn taith yr arweinwyr detholedig, mae FFIT Cymru wedi llwyddo i gyfleu realiti trawsnewidiadau personol. Mae hyn wedi dangos i eraill sut i chwalu’r rhwystrau honedig i gyfranogi ac i sicrhau ffordd o fyw iachach a hapusach.”
Bydd yr Her 5k FFIT Cymru yn cychwyn am 9am ar Fai 11, ac mae modd cofrestru ar gyfer y digwyddiad ar wefan Parkrun Cymru.