Mae dyn, 23, wedi cael ei ladd a dau arall wedi dioddef anaf ar ôl cael eu saethu yn ninas Birmingham.

Digwyddodd ychydig ar ôl 5 ar St Vincent Street West yn Ladywood ddoe (dydd Mawrth, Mai 7).

Cafodd dau ddyn 20 a 19 oed hefyd eu cludo i’r ysbyty i gael triniaeth ac nid yw’r anafiadau yn rhai difrifol, yn ôl Heddlu’r West Midlands.

Mae ditectifs wedi lansio ymchwiliad i’r saethu.