Mae trydydd cynghorydd wedi rhoi ei enw ymlaen i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Dwyfor-Meirionnydd yn etholiad y Cynulliad 2021.

Mae Mabon ap Gwynfor, sy’n cynrychioli ward Llandrillo ar Gyngor Sir Ddinbych, wedi cyhoeddi ei fwriad i ymuno â’r ras am yr enwebiad yn erbyn Nia Jeffreys a Simon Brooks.

“Rwy’ i wedi ymgyrchu dros hawliau pobol a chymunedau ers cyn cof, a hoffwn gael y cyfle yn awr i gymryd y profiadau yma i’r Senedd er mwyn sefyll i fyny dros bobol Dwyfor-Meirionnydd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobol yr ardal a Chymru,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Mae yna ddau ymgeisydd arall wedi rhoi eu henwau ymlaen hyd yma, ac rwy’n falch o’u hadnabod.

“Mae gen i barch mawr atyn nhw ac rwy’n edrych ymlaen at drafod syniadau gyda nhw yn ystod yr ymgyrch.”

Bydd hystings yn cael eu cynnal yn yr etholaeth ym mis Mehefin.

Dafydd Elis-Thomas yw Aelod Cynulliad Dwyfor-Meirionnydd ar hyn o bryd, ac mae wedi dal y sedd ers sefydlu’r Cynulliad yn 1999.

Ond ers iddo adael Plaid Cymru a chroesi’r llawr i gabinet y Blaid Lafur yn 2016, mae sawl un o gefnogwyr y blaid wedi galw am is-etholiad.