Roedd car heddlu yn gwneud dros 100 milltir yr awr eiliadau cyn idd0 “golli rheolaeth” a tharo car arall, gan ladd dau o bobol.
Bu farw’r swyddog Dave Fields, 45, a Lorraine Stephenson, 61, yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A57 yn Sheffield ar ddydd Nadolig, 2017.
Yn ôl y crwner Chris Dorris roedd y car patrolio BMW, gyda’r swyddog Dave Fields wrth yr olwyn, yn teithio “reit gyflym” gyda’r goleuadau glas ymlaen wrth ymateb i alwad 999 cyn taro mewn i’r car Citreon oedd Lorraine Stephenson ynddi.
Dywed yn yr ymchwiliad yng Nghanolfan Medico-Legal Sheffield bod recordiwr data’r car heddlu yn dangos ei fod yn teithio 103mya cyn iddi golli rheolaeth.
Mae tystion yn dweud roedd glaw trwm yn yr ardal yn yr awr cyn y gwrthdrawiad, wnaeth ddigwydd am tua 8.20yh.
Roedd yr heddlu yn ymateb i alwad 999 oedd yn adrodd bod 15 o bobol yn cwffio, a bod un yn defnyddio bar metel, meddai pennaeth Heddlu De Efrog, Bob Chapman.
Ef oedd cyntaf yno, ond doedd dim byd yn digwydd a gofynnwyd i holl unedau heddlu i sefyll i lawr. Does dim tystiolaeth bod y swyddogion yn y car heddlu wedi clywed hynny.