Mae noddwyr y Torïaid sydd yn teimlo’n rhwystredig gydag arweinyddiaeth Theresa May yn cael eu targedu gan Nigel Farage wrth iddo geisio codi arian ar gyfer ei blaid newydd – y Brexit Party.
Dywed Nigel Farage, cyn arweinydd UKIP, ei fod eisoes yn edrych ymhell tu hwnt i etholiadau Ewrop fi yma gan ddechrau ei broses o ddewis ymgeiswyr ar gyfer etholiad cyffredinol.
Ar ben hynny, dywed ei fod mewn trafodaethau gyda chyn nodddwyr y Torïaid ynglŷn ag ariannu’r ymgyrch hwnnw.
Mae’r blaid wedi codi “ymhell dros £2m” yn barod i gystadlu yn etholiadau Ewrop, meddai Nigel Farage, gyda 90% o’r arian yn dod gan tua 88,000 o aelodau sy’n talu £25 yr un.
Mae rhodd o £100,000 hefyd wedi cael ei dderbyn gan y Brexit Party.
Er hyn, “mae rhoddwyr llawer mwy, rhoddwyr traddodiadol y Ceidwadwyr” nawr mewn trafodaethau gyda’i Blaid, “oherwydd eu bod yn deall ac yn sylwi bod angen arian mawr i gwffio etholiad cyffredinol,” meddai Nigel Farage.