Mae cyn-wraig y pêl-droediwr George Best wedi pledio’n euog i gyhuddiad o yfed a gyrru.

Fe gafodd Alex Best ei dal yn yfed a gyrru ger ei chartref yn Kingswood, Surrey, ym mis Ebrill.

Heddiw yn Llys Ynadon Guildford fe blediodd yn euog i’r cyhuddiad yn ei herbyn.

Yn ôl yr erlynydd roedd Alex Best wedi yfed tair gwaith yn fwy o alcohol nag sy’n gyfreithlon ar gyfer gyrru car.

Roedd hi’n gyrru car a fu mewn gwrthdrawiad pan gafodd hi brawf alcohol, ond chafodd neb anaf yn y ddamwain.

Yn ôl adroddiadau, ar ddiwrnod y ddamwain roedd Alex Best wedi bod yn yfed gyda Lembit Opik, cyn-Aelod Seneddol Sir Fynwy.

 Colli ei gŵr oherwydd alcohol

Bu farw George Best yn 59 oed yn 2005, wedi i organau ei gorff roi’r gorau i weithio.

Roedd cyn-seren Man U yn alcoholig.