Mae yna alwadau am ymchwiliad gan yr heddlu ar ôl i’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson, gael ei ddiswyddo o Gabinet Llywodraeth Prydain neithiwr (dydd Mercher, Mai 1).
Y Blaid Lafur sydd ymhlith yr amlycaf sy’n galw am weithredu gan yr heddlu wrth iddyn nhw gyhuddo Gavin Williamson o fynd yn groes i’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol ar ôl datgelu gwybodaeth am y cwmni o Tsieina, Huawei.
Mae’r cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn wedi gwadu rhyddhau unrhyw wybodaeth i bapur newydd, ac ychwanega y byddai unrhyw ymchwiliad gan yr heddlu yn clirio ei enw.
Mae Scotland Yard wedi dweud na fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal, ond fe fyddan nhw’n asesu gwybodaeth a all “awgrymu bod yna droseddau wedi eu cyflawni”.
Yn y cyfamser, mae llefarydd ar ran y Prif Weinidog wedi ymateb drwy ddweud bod y mater bellach “ynghau”.
Diswyddiad dramatig
Mae diswyddiad sydyn Gavin Williams o’r Weinidogaeth Amddiffyn wedi creu cryn cynnwrf yn San Steffan, ar ôl i Theresa May ddweud bod ymchwiliad gan y prif was sifil, Mark Sedwill, wedi dod o hyd i “dystiolaeth gadarn” sy’n awgrymu mai ef sydd ar fai.
Dywedodd y Prif Weinidog hefyd ei bod hi’n “bryderus” ynglŷn â’r modd yr oedd Gavin Williamson wedi ymddwyn tuag at yr ymchwiliad.
Gwadu’r holl honiadau y mae Gavin Williamson, ac mae hefyd yn dweud nad oedd yr un aelod o’i dîm yn rhan o’r datgelu.
Dywedodd yn ei lythyr o ymateb i Theresa May ei fod wedi gwrthod cynnig ganddi i ymddiswyddo, gan ddweud y byddai hynny wedi profi ei fod ef neu ei dîm yn euog.