Bydd cyfarfod cyhoeddus yn ardal Llan-non, Ceredigion, ymhen pythefnos er mwyn trafod sut i warchod dull hynafol o ffermio.
Mae’r tir sy’n cael ei adnabod ‘Morfa Esgob’ ym mhlwyf Llansantffraid yn unigryw yn y modd y mae wedi ei rannu’n ‘lleiniau’, sef stribedi main o dir a fu’n gyffredin ledled Cymru ar un adeg.
Er bod rhai o’r lleiniau yn Llan-non wedi eu gwarchod gan Gyngor Sir Ceredigion o dan y cynllun datblygu lleol, mae pentrefwyr yn credu bod angen gwneud mwy.
Yn ôl Hywel Llŷr Jenkins, Cadeirydd Cangen Plaid Cymru Llan-non a’r Cylch, a fydd yng ngofal y cyfarfod cyhoeddus, mae gan y lleiniau “bwysigrwydd cenedlaethol” ac mae’n credu y dylai cyrff gwarchodaeth yng Nghymru gamu i’r adwy i’w diogelu.
“Mae rhai o’r enghreifftiau gorau sydd ar ochr arall yr hewl ddim yn cael eu gwarchod o dan [y cynllun datblygu lleol], na chan unrhyw gyrff cenedlaethol…” meddai Hywel Llŷr Jenkins wrth golwg360.
“Yn eithaf diweddar, mae caniatâd wedi ei roi i un datblygiad a fydd yn mynd yn ei flaen cyn bo hir, er y bu gwrthwynebiad i hynny gan rai pobol leol.
“Rydyn ni’n trio codi ymwybyddiaeth pobol leol o bwysigrwydd cenedlaethol y lleiniau hyn.”
Darnau o hanes
Daw’r enw ‘Morfa Esgob’ oherwydd y bu’r darn o dir sy’n bodoli rhwng afonydd Peris a Chlydan ar un adeg yn eiddo i Esgobaeth Tyddewi.
Tua’r flwyddyn 1215, fe gafodd y rhandir ei roi yn nwylo’r bobol leol, ac ers hynny mae’r lleiniau wedi aros bron yn ddigyfnewid ar hyd y canrifoedd.
Yn ôl Hywel Llŷr Jenkins, mae lleiniau o’r fath yn brin yng Nghymru erbyn hyn, ond mae’n gobeithio y gall cymuned Llan-non gael ysbrydoliaeth o’r hyn sy’n cael ei wneud gan warchodwyr ar leiniau yn ardal Laxton, Swydd Nottingham.
“Mae’n nhw’n dal i gael eu trin fel yr oedden nhw yn y canol oesoedd,” meddai. “Does dim ffermio dwys yn digwydd arnyn nhw, ac mae yna ganolfan groeso sy’n sôn am yr hanes.
“Ni wedi bod mewn cyswllt gyda nhw er mwyn gweld pa wersi y gallwn ni ddysgu oddi wrthyn nhw.”
Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Nhafarn y Swan, Llan-non, ar Fai 15.