Mae John Worboys, y gyrrwr tacsi o Lundain, wedi cael ei gyhuddo o ragor o droseddau rhyw.

Mae’r dyn sydd bellach yn defnyddio’r enw John Radford wedi’i gyhuddo o ddau achos o roi cyffuriau gyda’r bwriad o dreisio neu ymosod yn anweddus, a dau achos o roi cyffuriau gyda’r bwriad o gyflawni troseddau rhyw.

Dywed Gwasanaeth Erlyn y Goron fod y troseddau wedi’u cyflawni rhwng 2000 a 2008.

Bydd yn mynd gerbron ynadon ar Fai 23.