Mae dyn wedi’i anafu’n ddifrifol ar ôl iddo ei drochi ei hun gyda sylwedd gwenwynig mewn llys.

Roedd Marc Marshall yn y doc yn Llys y Goron Llundain ddydd Llun (Ebrill 29) pan dywalltodd yr hylif dros ei gorff.

Yn ôl adroddiadau, roedd y gŵr 54 oed newydd gael ei ddedfrydu am droseddau yn ymwneud â thwyll.

Fe gafodd un o swyddogion y llys hefyd ei hanafu, ond doedd dim angen triniaeth ysbyty arni.

Y gred ydi fod Marc Marshall wedi bod yn cario’r hylif mewn potel ddŵr, ond mae lluniau cylch-cyfyng yn ei ddangos yn cymryd cegaid o’i chynnwys wrth fynd trwy’r ardal ddiogelwch.

Mae llefarydd ar ran Heddlu’r Met yn cadarnhau iddyn nhw gael eu galw i’r llys toc wedi hanner dydd ar Ebrill 29, yn dilyn adroddiad o ymosodiad difrifol.