Mae Jeremy Corbyn dan y lach unwaith eto am sylwadau dadleuol mewn rhagair i fersiwn newydd o lyfr dros gant oed am yr Iddewon.
Mae’r llyfr Imperialism: A Study gan J A Hobson yn honni bod banciau a phapurau newydd y cyfnod dan reolaeth yr Iddewon.
Fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddar fod rhagair arweinydd y Blaid Lafur wedi ymddangos yn y fersiwn a gafodd ei hargraffu yn 2011. Cafodd y fersiwn wreiddiol ei llunio yn 1902.
Mae’r Blaid Lafur yn wfftio’r cyhuddiad fod rhagair Jeremy Corbyn yn rhoi sêl bendith i gynnwys y llyfr ac yn benodol, i rai sylwadau sy’n cael eu hystyried yn wrth-Semitig.
Yn ei ragair, dywed Jeremy Corbyn fod sylwadau’r awdur am Iddewon yn “gywir” ac yn “rhagweledol”.
Mae’r sylwadau’n ei wneud yn “anaddas” i arwain y Blaid Lafur, yn ôl Ian Austin, cyn-aelod seneddol a adawodd y blaid yn gynharach eleni tros agwedd Jeremy Corbyn at wrth-Semitiaeth.
“A wnaeth Jeremy Corbyn ddim darllen y llyfr cyn ei ganmol?” oedd ymateb yr Arglwydd Finkelstein, yr Arglwydd Ceidwadol.
Amddiffyn yr arweinydd
Ond wrth ymateb, mae’r Blaid Lafur a Tristram Hunt, cyn-aelod seneddol Llafur wedi amddiffyn Jeremy Corbyn.
Mae Tristram Hunt yn dweud fod gwaith Hobson yn “deilwng o astudiaeth” ac y dylid ei ystyried yn rhywbeth amgenach na “gwrth-Semitaidd”.
Mewn datganiad, mae llefarydd ar ran y Blaid Lafur yn dweud bod sylwadau’r awdur yn “hynafol a sarhaus”, a bod Jeremy Corbyn yn “gwrthod elfennau gwrth-Semitaidd” y gyfrol.