Cafodd dyn ei gludo i’r ysbyty yn Abertawe neithiwr (nos Fawrth, Ebrill 30) yn dilyn ymosodiad difrifol.

Cafodd heddlu arfog eu galw i ganol y ddinas toc ar ôl 7.50 yn dilyn digwyddiad yn Stryd Nicholl.

Bu’n rhaid cau nifer o strydoedd cyfagos am rai oriau wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion.