Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP wedi amddiffyn sylwadau Gerard Batten, arweinydd y blaid, am Islam.
Fe ddywedodd fod y crefydd fel “cwlt marwolaeth” ac mae Stuart Agnew yn dweud bod awgrym arweinydd Brunei y dylid cosbi gwrywgydiaeth drwy ladd â cherrig yn cyfiawnhau’r sylwadau hynny.
Daeth ei sylwadau wrth i UKIP baratoi i lansio eu hymgyrch Ewropeaidd yn Middlesbrough.
Mae Stuart Agnew yn dweud nad oedd y gymuned Foslemaidd wedi amddiffyn eu hunain yn erbyn y sylwadau nac wedi eu gwrthod nhw.
“Pam na wnaethon nhw ddod allan yn eu heidiau yn y wlad hon a dweud eu bod nhw’n condemnio [y sylwadau] yn llwyr?” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.