Mae’r heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth dynes 21 oed yn ardal Cathays y brifddinas neithiwr (nos Fawrth, Ebrill 30).

Cawson nhw eu galw am oddeutu 6.10 yn dilyn adroddiadau am ddigwyddiad yn Stryd Glynrhondda.

Dydy ei chorff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae lle i gredu mai dynes leol yw hi ac mae ei theulu wedi cael gwybod.

Mae dyn 22 oed wedi cael ei arestio ac mae’r heddlu’n apelio am dystion.