Fe fydd aelodau seneddol yn pleidleisio ddydd Mercher (Mai 1) i benderfynu a ddylen nhw gyhoeddi argyfwng amgylcheddol yn sgil newid hinsawdd.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyfres o brotestiadau gan yr Exctinction Rebellion yn ddiweddar, a ddaeth â bywyd prysur yn Llundain i stop dros dro.
Mae Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, yn gobeithio gweld nifer o wledydd eraill yn dilyn esiampl Senedd Prydain.
Mae’r bleidlais wedi cael cefnogaeth Greta Thunberg, merch 16 oed sydd wedi’i henwebu ar gyfer gwobr heddwch Nobel.
Mae’r Exctinction Rebellion yn galw ar y llywodraeth i “ddweud y gwir” ynghylch newid hinsawdd, a galw am newid brys.
Mae Jeremy Corbyn yn dweud bod y gweithgarwch diweddar yn “angenrheidiol”.