Mae disgwyl i Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wneud datganiad i Senedd yr Alban ar ei chynlluniau ar gyfer annibyniaeth fory (dydd Mercher, Ebrill 24).

Yn ôl adroddiadau mae Nicola Sturgeon wedi gofyn am amser i drafod ail refferendwm ar annibyniaeth.

Dywed arweinydd yr SNP yn ôl ym mis Ionawr ei bod hi am lunio ei amserlen i’r bleidlais “mewn mater o wythnosau,” ond fe gadwodd hi yn dawel yng nghanol ansicrwydd Brexit.

Gyda’r Undeb Ewropeaidd nawr wedi rhoi estyniad chwe mis i Erthygl 50, mae’r Prif Weinidog nawr yn disgwyl adeiladu ar gynlluniau ei phlaid o flaen eu cynhadledd dros y penwythnos.