Mae tua 20 o deuluoedd yn ardal Blaenau Ffestiniog wedi gorfod gadael eu cartrefi yn ystod y nos yn sgil tân mynydd sylweddol.
Cafodd y gwasanaeth brys eu galw i’r tân ger Llechwedd toc cyn 8:30yh neithiwr (dydd Llun, Ebrill 22), ac mae ymladdwyr yn dal i ddelio â’r digwyddiad y bore yma.
Mae rhan o ffordd yr A470 ynghau yn y ddau gyfeiriad, gyda’r heddlu yn cynghori pobol i osgoi’r ardal, os yn bosib.
Does dim adroddiadau bod neb wedi eu hanafu.
Deffro i hyn bore ‘ma… y llun cynta yn dangos y tân yn llythrennol ar y graig tu ol i fy nhŷ.
Dinistr difeddwl ydi hyn.
Tro dwetha i hyn ddigwydd oedd 1976 fel dwi’n dallt. pic.twitter.com/HwLxyUdCPt— ErwynJ ??????????? (@ErwynJ) April 23, 2019
Dal i fynd bora ma #blaenauffestiniog
Posted by Dewi Prysor on Tuesday, 23 April 2019