Mae dyn a bachgen yn ei arddegau wedi’u harestio wedi i glerc bargyfreithiwr 24 oed gael ei drywanu i farwolaeth y tu allan i dafarn ym Manceinion.

Bu farw Joe O’Brien, o Blackley, yn yr ysbyty yn dilyn “cwffas fawr” y tu allan i’r Royal Oak Hotel yn Failsworth, yn ystod oriau mân dydd Sul (Ebrill 21).

Mae ei deulu wedi rhoi teyrnged i “fab, brawd, ŵyr, ewythr, nai a ffrind cariadus”.

Fe gafodd dau ddyn arall, 21 a 23 oed, eu hanafu yn ystod y gwffas, ac fe gafodd y dyn 21 oed ei gludo i’r ysbyty ar ôl c cael ei drywanu.

Mae dyn 22 oed a bachgen 17 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac o geisio llofruddio, ac mae’n nhw’n cael eu holi yn y ddalfa.