Mae prifysgolion yng ngwledydd Prydain wedi eu cyhuddo o wneud arbrofion gwyddonol ar gwningod yn “gyfrinachol.”
Yn ôl ymgyrchwyr Prosiect Cyfiawnder Anifeiliaid, mae’r cwningod yn dioddef ac yn marw oherwydd yr arbrofion sy’n cael eu cynnal tu ôl i’r llenni mewn labordai ymchwil.
Maen nhw’n honni bod prifysgolion yn gwrthod bod yn onest ynglŷn â phrofion “hen ffasiwn” sy’n cael eu cynnal ar anifeiliaid.
Dengys ffigurau diweddaraf Llywodraeth gwledydd Prydain bod 9,498 o gwningod wedi cael eu defnyddio mewn profion labordai yn 2017.
D’oes dim gwybodaeth manylach i ddangos pa brifysgol sy’n cynnal yr arbrofion.
Dywed Prosiect Cyfiawnder Anifeiliaid fod rhai cwningod yn dioddef o anafiadau trawmatig i’w llygaid, yn cael eu heintio a cholera yn fwriadol, a chael sylweddau prawf wedi’u chwistrellu i’w clustiau.
Cuddio arbrofion
Mae’r ymgyrchwyr yn honni bod tystiolaeth gynnyddol bod prifysgolion yn ceisio cuddio eu cyfraniad i arbrofion ar gwningod ac arbrofi ar anifeiliaid yn gyffredinol.
Yn flynyddol mae’r Prosiect Cyfiawnder Anifeiliaid yn danfon ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth i brifysgolion ar brofi ar anifeiliaid.
Mae darganfyddiadau’r ymgyrchwyr yn dangos bod:
– Y nifer sydd wedi ateb y cais wedi gostwng o 57 i 29 rhwng 2016 a 2019
– Allan o’r 22 prifysgol fwyaf amheus – mae’r nifer sydd wedi ateb wedi gostwng o 20 i 12 rhwng 2016 a 2018
– Dros hanner wedi gwrthod neu wedi methu darparu’r wybodaeth yn 2019
– Amcangyfrif o 26 o arbrofion yn cael eu cynnal yn ddyddiol