Mae’r SNP yn honni nad yw system budd-daliadau gwledydd Prydain yn gweithio.
Yn ôl ffigurau sydd wedi dod i law y blaid trwy’r ddeddf rhyddid gwybodaeth, mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi gwario £121.5m ar ddiogelwch cymdeithasol a thribiwnlysoedd yn 2017/18 – cynnydd o 15% o’r flwyddyn gynt.
Dengys ystadegau swyddogol bod 41,171 allan o 51,256 – 80% – o apeliadau yn y chwarter hyd at fis Rhagfyr 2018, wedi cael eu clirio mewn gwrandawiadau.
Allan o’r rhain, canfuwyd 70% o blaid yr hawliwr – cynnydd 5% i gymharu a 2017/18.
“Mae’r ffigurau hyn yn destun pryder mawr ac yn amlygu system sy’n wrthwynebus i bobol sydd angen y cefnogaeth fwyaf,” meddai Aelod Seneddol yr SNP, Bob Doris.
“Y gwir realiti yw bod y Torïaid yn gadael y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas i lawr yn gyntaf.”