Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymchwilio i ansawdd diogelwch mewn mannau sy’n cynnal cyngherddau mawr.
Dyna mae Maer Greater Manchester, Andy Burnham, wedi’i argymell mewn adroddiad ynghylch yr ymosodiad brawychol ar Arena Manceinion yn 2017.
Bu farw 22 o bobol pan wnaeth yr hunanfomiwr Salman Abedi, 22, ffrwydro dyfais yng nghyntedd y man gigiau yn ystod cyngerdd y gantores, Ariana Grande.
“Dw i’n credu ei fod yn glir bod angen cynnal adolygiad trylwyr i fesurau diogelwch mewn mannau sy’n cynnal digwyddiadau mawr,” meddai Andy Burnham.
“Mi allai’r adolygiad amlinellu safonau clir gorfodol. A dw i’n galw ar y Llywodraeth i’w danio.
“Mae angen safonau clir a gorfodol arnom mewn pobman sy’n cynnal digwyddiadau. Bydd hynny’n rhoi eglurder i bobol sy’n cynnal digwyddiadau, ac yn rhoi hyder i’r cyhoedd.”
Yr adroddiad
Mae’r adroddiad hefyd wedi datgelu bod Gwasanaeth Dân ac Achub Manceinion Fawr wedi cynnal “adolygiad cynhwysfawr” yn sgil pryderon i’w hymateb i ymosodiad Arena.
Mae’r ddogfen hefyd yn nodi bod Sefydliad Annibynnol Safonau’r Wasg (IPSO) yn cynnal gwaith yn gysylltiedig â’r ymosodiad.
Daw hyn wedi i deuluoedd sy’n wylo dweud eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu “harasio” gan y wasg yn dilyn yr ymosodiad.