Mae’r celfyddydau yng ngwledydd Prydain, sydd werth £10.8bn, yn cyfrannu mwy at yr economi nag y mae amaethyddiaeth, yn ôl adroddiad Cyngor Celfyddydau Lloegr.
Y gred yw bod 360,000 o swyddi yn cael eu cefnogi gan y celfyddydau, gyda’r Llywodraeth yn elwa o £2.8bn mewn trethi.
O fewn blwyddyn yn unig, mae gwerth y celfyddydau a diwylliant fel diwydiant wedi codi £390m.
Ac er y llwyddiant yma, mae 75% o sefydliadau’r celfyddydau wedi dioddef toriadau ac mae gwirfoddolwyr yn cymryd pethau i’w dwylo eu hunain.
Yn ôl yr adroddiad, cyhoeddi llyfrau oedd y cyfrannwr mwyaf i’r sector sydd yn rhoi mwy o arian i economi gwledydd Prydain nag amaethyddiaeth a hela.
Mae hi hefyd yn mapio effaith economaidd y Celfyddydau a diwylliant o 2009 i 2016, ac yn dangos y cynnydd blynyddol mae’r sector wedi gwneud yn ariannol, a’i chyfraniad i’r economi ehangach.
Roedd y sector wedi cymryd £17bn ac wedi ychwanegu £10.6bn i economi gwledydd Prydain yn 2016 – sydd yn fwy na chynnyrch cyfrifiaduron, tecstilau a thechnoleg drydanol yn yr un flwyddyn.