Mae Tom Jones wedi rhoi teyrnged i gyfansoddwr y gân ‘Delilah’, Les Reed.

Bu farw’r gŵr a oedd hefyd yn gyfrifol am y gân, ‘It’s Not Unusual’, yn 83 oed.

Mewn neges a llun ar wefan Twitter, meddai Tom Jones: “Mae’n ddrwg gen i glywed y newyddion am farwolaeth fy ffrind a fy nghydweithiwr, Les Reed.

“Roedd o’n gyfansoddwr cerddoriaeth a geiriau arbennig, ac fe fu’n gyfrifol am ddwy gân bwysig iawn i mi. Roedd Les hefyd yn ddyn hyfryd, ac fe fydd e’n byw trwy ei gerddoriaeth.”

Mae Les Reed yn adnabyddus ym myd pêl-droed hefyd, gan iddo gyd-gyfansoddi ‘Marching On Together’, anthem Leeds United.