“I fi, mae sgrifennu yn fodd o roi cyfrinach ar bapur neu’n fodd o fendio…”
Dyna yw barn Caryl Bryn, myfyrwraig o Fôn sydd newydd ddwyn ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth i olau dydd.
Mae Hwn ydy’r llais, tybad?, sydd wedi ei chyhoeddi gan Gyhoeddiadau’r Stamp, yn ffrwyth yr hyn sydd wedi bod yn “broses naturiol” i’r bardd ers yn ifanc – ysgrifennu.
“Dydw i ddim yn ei wneud o i gael sylw neu ymateb,” meddai Caryl Bryn, sydd ar hyn o bryd yn astudio MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor.
“Mae’n rhywbeth i fi ac i rywun arall gael rhywbeth ohono. Os oes yna rywbeth ar fy meddwl i, fe fydda i’n rhoi tudalen wag o fy mlaen er mwyn gweld beth bynnag a ddaw allan.
“Er, ar y pryd, efallai ei fod o’n broses rwystredig o fethu â sgrifennu, ond yn y pen draw mae o’n troi’n rhywbeth llawer mwy.
“Dyna beth sydd wedi digwydd ar hyd fy mywyd.”
Cywion Cranogwen a Caradog Prichard
Gweithgaredd sydd wedi “gwneud yr awen yn gleniach” i Caryl Bryn yn ddiweddar yw adrodd ei gweithiau creadigol ar lafar gyda’r grŵp llenyddol, Cywion Cranogwen.
Dywed mai’r hyn sy’n ei gyrru i berfformio’n gyhoeddus yw’r awydd i “ysgogi” mwy o ferched fel hithau i arddangos eu doniau creadigol, wrth iddi deimlo bod yna “ddiffyg” merched ar y sîn lenyddol yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae hi hefyd wedi cyhoeddi CD sy’n cynnwys rhai o gerddi’r gyfrol newydd er mwyn arddangos yr ochr berfformiadol o’i gwaith.
Ond wrth esbonio arwyddocâd teitl y casgliad, mae’n cyfaddef mai ei hobsesiwn gyda nofel enwog Caradog Prichard sy’n gyfrifol am y dewis…
“‘Hwn ydy’r llais, tybad?’ ydy geiriau cyntaf wythfed pennod Un Nos Ola Leuad,” meddai. “Mae honno’n nofel sydd wedi cael dylanwad mawr arna i ers yn blentyn.
“Dw i wedi darllen y nofel dros 40 o weithiau erbyn hyn…”