Mae’r Independernt Group a gafodd eu sefydlu gan wleidyddion Llafur a’r Toriaid wedi dod yn blaid wleidyddol lawn ac fe fydd hi’n brwydro yn etholiadau Ewrop.

Bydd y blaid newydd, Change UK – The Independent Group, yn sefyll ar lwyfan o blaid yr Undeb Ewropeaidd ac yn galw am ail refferendwm ar Brexit.

Yn ôl y blaid, maen nhw wedi derbyn 3,700 o geisiadau gan bobol sydd eisiau sefyll fel ymgeiswyr Change UK ac maen nhw wedi dechrau’r broses o greu rhestr fer a chyfweld ac Aelodau Senedd Ewrop posib.

Fe fydd tua 70 o ymgeiswyr yn cael eu lleoli gan y blaid ar ol iddi gwblhau ei phroses cofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol.

“Mae hon yn frwydr dros lais gwledydd Prydain yn Ewrop – ac rydyn ni wedi’n syfrdanu gan y miloedd o bobol sydd am dorchi eu llewys ac ymuno â’n hymgyrch o bob cefndir ac o bob cwr o’r wlad,” meddai Heidi Allen, arweinydd dros dro Change UK.