Mae llys ym Mahrain wedi rhoi bywyd o garchar i 69 o bobol ac wedi diddymu dinasyddiaeth 138 ar gyhuddiadau wedi eu cysylltu â brawychiaeth.

Dywed swyddfa’r erlynydd cyhoeddus bod 70 arall wedi cael dedfryd o rhwng tair a deng mlynedd yn y carchar hefyd.

Mae gan yr amddiffynwyr, sy’n cynnwys 109 sydd yn y ddalfa a 60 gafodd dreial yn absennol, yn gallu apelio.

Ymhlith y cyhuddiadau yn erbyn y grŵp a elwir yn “Hezbollah Barhain” y mae sefydlu cell frawychol yn Barhain gyda chymorth Iran, ynghyd â chynnal a threfnu ymosodiadau brawychol.

Yn ôl Sefydliad Ewropeaidd Bahrain ar gyfer Hawliau a Democratiaeth mae 990 o bobol wedi colli eu dinasyddiaeth yno ers 2012, sy’n cynnwys ymgyrchwyr gwleidyddol yn areithio am gam-drin hawliau dynol.