Mae ymgynghorydd i Lywodraeth Prydain wedi cael ei ddiswyddo am ddweud bod ‘Islamoffobia’ yn air propaganda.

Mae Syr Roger Scruton yn dweud fod y term yn un sydd wedi’i ddyfeisio gan Fwslimiaid fel ffordd o geisio osgoi trafod problemau honedig o fewn y ffydd.

Fe fu dan y lach ers mis Tachwedd ar ôl gwneud y sylw, a hefyd am ddweud nad yw gwrywgydiaeth yn “normal”.

Fe ategodd ei sylwadau’n ddiweddar mewn erthygl yn y New Statesman America.

Mae Llywodraeth Prydain a Stryd Downing yn dweud bod ei sylwadau’n “hollol annerbyniol”.