Mae o leiaf ddau o bobol wedi cael eu lladd mewn tân mewn canolfan siopa yn Bangkok, prifddinas Gwlad Thai.

Mae mwy na dwsin o bobol wedi cael eu hanafu.

Mae’r ganolfan yn cynnwys gwesty a swyddfeydd.

Mae diffoddwyr wedi llwyddo i reoli’r tân erbyn hyn, a’r adeilad wedi cael ei wagio.

Roedd lle i gredu’n wreiddiol bod tri o bobol wedi cael eu lladd, ond cafodd y ffigwr ei ostwng yn ddiweddarach.

Mae lle i gredu bod un ohonyn nhw wedi neidio o ffenest ar lawr uchel.

Mae gan y ganolfan hanes o danau bwriadol yn cael eu cynnau, ond dydy hi ddim yn glir y tro hwn beth oedd wedi digwydd.