Fe fydd dyn yn mynd gerbron ynadon heddiw (dydd Llun, Ebrill 1) yn dilyn digwyddiad yng ngorsaf drenau St Pancras nos Wener pan gafodd teithiau miloedd o deithwyr ar drenau Eurostar, rhwng Llundain a Pharis, eu heffeithio.

Mae Terry Maher, 44, o Camden, gogledd Llundain, wedi’i gyhuddo o achosi niwsans cyhoeddus ac achosi rhwystr ar reilffordd, meddai Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Cafodd Terry Maher ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo fynd gerbron ynadon Westminster ddydd Llun (Ebrill 1).

Yn ôl llygad-dystion yng ngorsaf Ryngwladol St Pancras cafodd protestiwr ei weld ar y cledrau yn gweiddi am Brexit ac yn chwifio baner Lloegr.

Bu’n rhaid canslo nifer o deithiau yn dilyn y digwyddiad a ddechreuodd nos Wener (Mawrth 29) cyn i’r heddlu arestio dyn 12 awr yn ddiweddarach.