Bydd pobol sy’n methu â thalu’r dreth gyngor ddim yn cael eu carcharu, yn ôl deddfwriaeth newydd.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd, a fydd yn cael ei chyflwyno heddiw (dydd Llun, Ebrill 1), yn bwriadu gwneud y dreth gyngor yn “decach”, gan “amddiffyn yr unigolion mwyaf agored i niwed yng Nghymru”.
Mae hefyd yn eithrio pobol ifanc – hyd at 25 oed – sy’n gadael gofal rhag gorfod talu’r dreth gyngor.
Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Chymdeithas Lywodraeth Leol Cymru a’r awdurdodau lleol wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd “fwy cyson” drwy gyflwyno Protocol Treth Gyngor Cymru.
Nod y protocol, meddai Llywodraeth Cymru, yw “canolbwyntio ar y bobol wrth ymdrin â dyledion, ôl-ddyledion a gorfodi”.
“Cam cadarnhaol”
Yn ôl Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid: “Rydyn ni’n gwybod bod aelwydydd yn cael trafferth ymdopi â diwygiadau lles Llywodraeth Prydain dw i eisiau gwneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru a’n hawdurdodau lleol yn gwneud popeth y gallwn i helpu.
“Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn gam cadarnhaol arall i’r cyfeiriad cywir, ond mae llawer i’w wneud eto.”
Ychwanega’r Cynghorydd Mary Sherwood, llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: “Mae Protocol Treth Gyngor Cymru yn newid sylweddol yn ein hagwedd at ddyledion ac ôl-ddyledion a bydd yn canolbwyntio ar feithrin cysylltiadau yn gynnar gyda phobol sy’n talu’r dreth gyngor.
“Mae hefyd yn hybu perthnasoedd gwaith agosach gyda’n partneriaid yn y sector cynghori ac asiantaethau gorfodi i sicrhau nad yw problemau yn gwaethygu y tu hwnt i reolaeth yn ddiangen ar gyfer pobol agored i niwed.”