Mae dau o blant ymhlith 14 o ffoaduriaid sydd wedi cael eu hachub ar ôl i’w cwch ddod i’r lan yn Folkestone.
Daeth yr awdurdodau o hyd i’r cwch am 1 o’r gloch fore heddiw (dydd Mercher, Mawrth 27).
Roedd 11 o ddynion a dynes yn eu plith, yn ogystal â phlentyn ifanc ac un arall yn ei arddegau.
Cawson nhw eu cludo i Dover ar gyfer asesiad meddygol a’u trosglwyddo i ofal yr awurdodau.
Mae lle i gredu bod dau o’r dynion yn dod o Iran a’r gweddill o Irac.