Mae angen i adrannau Llywodraeth Prydain gydweithio ymhellach â Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru ar draws y byd ar ôl Brexit, yn ôl Eluned Morgan.

Daw sylwadau’r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol ar drothwy ei haraith gerbron cynhadledd yng Nghaerdydd heddiw.

Mae hi’n dadlau bod Brexit yn newid perthynas ryngwladol gwledydd â’i gilydd, sy’n golygu bod angen i Gymru godi ei phroffil ymhellach, ac mae creu ei swydd yn rhan o’r broses honno.

Mae cynlluniau ar y gweill i greu strategaeth er mwyn egluro sut y bydd Llywodraeth Cymru’n codi proffil y wlad ar draws y byd yn sgil penderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar drothwy byd newydd

“Mae’n deg dweud ein bod ni’n sefyll ar drothwy byd newydd, a bydd rhaid i Gymru weithio’n galetach nag erioed i godi uwchlaw’r gystadleuaeth fyd-eang, i hyrwyddo’i hun ar lwyfan y byd,” meddai Eluned Morgan, sydd hefyd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

“Am wlad fach, mae gan Gymru lawer i’w gynnig ac mae’n rhaid i ni wneud mwy i godi ein proffil rhyngwladol.

“Rydyn ni’n gweld lefelau uwch nag erioed o gyflogaeth a mewnfuddsoddi, twf mewn allforion, prifysgolion o’r radd flaenaf, sector bwyd a diod ffyniannus a nifer enfawr o asedau cenedlaethol a chryfderau naturiol.

“Rydyn ni’n cynnal ymchwil o’r radd flaenaf, yn cyflwyno deddfwriaeth arloesol – fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – ac yn gwneud penderfyniadau polisi blaengar, dewr.

“Dyna’r ddelwedd rwy’ am weld Cymru yn ei chyflwyno i’r byd.

“Felly bydd y strategaeth newydd rwy’n ei datblygu yn sicrhau ei bod, yn y bôn, yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol i bobol Cymru, a’i bod yn seiliedig ar gyfres glir o werthoedd a fydd yn ein helpu i hyrwyddo Cymru ar draws y byd.”

“Rhaid cydweithio”

Ond mae hi’n dweud bod cydweithio’n hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant.

“Ond does dim modd i ni wneud hynny wrth ein hunain. Rydyn ni am i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud llawer mwy i weithio gyda Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru i’r byd.

“Rhaid iddyn nhw weithio law yn llaw gyda ni er mwyn sicrhau ein bod ni’n rhoi cyfarwyddyd clir i adrannau fel y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, yr Adran Masnach Ryngwladol, yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, yn ogystal â Visit Britain, British Council a’r BBC World Service ynghylch blaenoriaethau Cymru a’r ffordd rydyn ni’n disgwyl iddyn nhw gyflawni ar gyfer pobl Cymru.

“Felly rhan allweddol o’n strategaeth newydd fydd gosod amcanion clir a chyfeiriad strategol, nid yn unig ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond hefyd ar gyfer pawb sy’n gweithio’n rhyngwladol er mwyn i ni dynnu i’r un cyfeiriad, gan weithio ar y cyd i lwyddo ar y cyd.

“Mae pobl Cymru yn disgwyl ac yn haeddu hynny.”