Fe fydd Aelodau Seneddol yn ystyried ystod eang o opsiynau gwahanol ar gyfer Brexit heddiw (dydd Mercher, Mawrth 27) ar ôl iddyn nhw gipio grym oddi ar y Llywodraeth yn Nhŷ’r Cyffredin.

Cafodd Llywodraeth y Prif Weinidog, Theresa May, ei threchu o 329 i 302 ddydd Llun (Mawrth 25) ar ôl pleidlais yn y Tŷ.

Nid oes sicrwydd o ran pa system bleidleisio fydd yn cael ei defnyddio heddiw, ond mae’n debygol y bydd Aelodau Seneddol yn cael pleidlais ‘ie’ a ‘na’ i bob opsiwn.

Mae amrywiaeth o opsiynau wedi cael eu cyflwyno ac mi fydd llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, yn dewis rhai ar gyfer y drafodaeth a’r bleidlais heddiw.

Mae’r opsiynau yn cynnwys:

    Cynllun Llafur

    Marchnad gyffredin 2.0

    Pleidlais gyhoeddus

    Undeb tollau

    Cynllun cyfaddawdu cynllun iechyd A

    Diddymu Erthygl 50

    Diddymu yn hytrach na dim cytundeb

    Undeb tollau newydd

    EEA/ EFTA heb undeb tollau

    Brexit heb gytundeb

    Gadael cytundeb wrth gefn Gogledd Iwerddon

    Caniatâd sefydliadau datganoledig

    Parchu canlyniadau’r refferendwm