Fe fydd mudiad ymgyrchu yn lansio taflenni mewn naw iaith heddiw (dydd Mercher, Mawrth 27) er mwyn hyrwyddo addysg Gymraeg ymhlith cymunedau aml-ddiwylliannol Caerdydd a thu hwnt.

Mae’r taflenni gan fudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi cael eu cyfieithu i naw o’r prif ieithoedd sy’n cael eu siarad yn y brifddinas, gan gynnwys Arabeg, Bengali, Cwrdeg, Farsi, Hindi, Pwnjabi, Pwleg, Somali ac Urdu.

Mae’r ymgyrch yn cyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Amlieithrwydd, a chaiff y taflenni eu cyhoeddi fel adnodd dilynol i ffilm fer a lansiwyd y llynedd sy’n anelu at gyflwyno profiadau rhieni a disgyblion am addysg Gymraeg.

“Y Gymraeg yn perthyn i bawb”

Yn ôl Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RHAG, fe gawson nhw eu hysbrydoli gan agoriad Ysgol Hamadryad yn 2016, sef yr ysgol Gymraeg gyntaf i wasanaethu ardaloedd Grangetown a Thre-biwt.

“Yn ganolog i’r ymgyrch wrth sefydlu’r ysgol, roedd y dyhead i weld plant o bob cefndir yn derbyn addysg Gymraeg,” meddai.

“Ac felly mae’r taflenni hyn yn torri tir newydd o ran cyflwyno’r Gymraeg i gymunedau newydd a’i gosod mewn cyd-destun amlieithog fel sydd i’w gael yng Nghaerdydd.”

Ychwanega: “Ein prif neges felly yw bod y Gymraeg yn perthyn i bawb sy’n dewis byw yng Nghymru,” meddai wedyn.

“Hyderwn y bydd y taflenni a’r ffilm fel pecyn cyfannol yn fodd o ddathlu hynny ac yn ein galluogi i rannu neges gadarnhaol am yr iaith fel pont i gysylltu diwylliannau a chreu’r teimlad o berthyn.

“Rydym hefyd yn gobeithio y byddant yn fodd o ddeffro chwilfrydedd rhieni trwy bwysleisio bod dewis arall ar gael iddynt o ran addysg eu plant a bod addysg Gymraeg yn agored ac ar gael i bawb.”