Mae disgwyl i Theresa May annerch aelodau o’i phlaid ei hun yfory (dydd Mercher, Mawrth 26) wrth i rai Brecsitwyr caled awgrymu y gallan nhw gefnogi ei chytundeb Brexit.

Bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod â Phwyllgor 1922 wrth i Aelodau Seneddol ystyried opsiynau amgen ar gyfer Brexit ar ôl iddyn nhw gipio rheolaeth dros y broses yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr (dydd Llun, Mawrth 25).

Roedd 30 o Aelodau Seneddol Ceidwadol, gan gynnwys tri gweinidog, wedi pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth o blaid gwelliant sy’n cynnig cyfres o bleidleisiau ar opsiynau Brexit.

Yn ôl Jacob Rees-Mogg, cadeirydd y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd ac un o brif gefnogwyr Brexit caled, y dewis bellach “yw naill ai cytundeb Theresa May neu ddim cytundeb o gwbwl”.

“Dw i wastad wedi dweud bod dim cytundeb yn well na chytundeb Mrs May, ond mae cytundeb Mrs May yn well na pheidio â gadael o gwbwl,” meddai.

Ychwanega ei fod yn cydnabod erbyn hyn fod Brexit yn “broses yn hytrach na digwyddiad”, ac y gallai cymryd amser i wledydd Prydain dorri i ffwrdd o Frwsel.