Mae deiseb sy’n galw ar lywodraeth Prydain i ddiddymu Erthygl 50 wedi gweld y gyfradd uchaf erioed o lofnodion, yn ôl Pwyllgor Deisebau Tŷ’r Cyffredin.

Yn gynnar brynhawn heddiw (dydd Iau, Mawrth 21) roedd dros filiwn o lofnodion yn dilyn araith y Prif Weinidog, Theresa May, neithiwr (nos Fercher, Mawrth 20).

Fe feiodd Theresa May yr Aelodau Senedd am fethu â delifro canlyniad Refferendwm 2016, gan ddatgan i bleidleiswyr rhwystredig, ei bod “ar eu hochr nhw”.

Yn ôl y Pwyllgor Deisebau, roedd bron i 2,000 o lofnodion bob munud dros amser cinio heddiw, gan achosi i’r wefan dorri i lawr am gyfnod.

Ar yr ochr arall mae deiseb o blaid Brexit, sy’n galw ar y Llywodraeth i “adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ym mis Mawrth 2019,” wedi cael ei llofnodi 375,000 o weithiau.