Mae Mary Lou McDonald, arweinydd Sinn Fein, wedi cael ei beirniadu am orymdeithio y tu ôl i faner “sarhaus” yn Efrog Newydd ar Ddydd San Padrig.
Roedd hi ymhlith y rhai fu’n cario baner yn dwyn y slogan “Lloegr, ewch allan o Iwerddon” ddoe (dydd Sadwrn).
Cafodd llun ohoni ei gyhoeddi gan Sinn Fein.
Mae Simon Coveney, Gweinidog Materion Tramor Iwerddon, yn ei chyhuddo o arweinyddiaeth wael ac o greu embaras iddi hi ei hun.
Dywed fod ei gweithred yn “sarhaus, yn peri rhwyg ac yn embaras”, cyn ychwanegu y dylai hi “dyfu i fyny”.
Mae Plaid Unoliaethol Ulster a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd hefyd wedi beirniadu’r faner.