Roedd y tri dyn a fu farw yn dilyn cwymp eira ar fynydd Ben Nevis yn yr Alban yn rhan o dîm dringo o’r Swistir.
Mae’r cyfryngau yn y Swistir yn adrodd bod y grŵp yn aelodau o Glwb Alpin Suisse de Sion.
Cafodd pedwerydd dringwr ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl i’r cwymp eira daro ef a’i gyd-ddringwyr.
Wrth siarad o’r ysbyty, dywedodd Mathieu Biselx wrth bapur newydd o’r Swistir ei fod yn “brofiad erchyll” o wybod nad yw gweddill ei dîm yn dal ar dir y byw.
Mae lle i gredu bod un o’r dringwyr a fu farw yn dod o’r Swistir, tra bod y ddau arall yn dod o Ffrainc.
Bu rhaid i achubwyr chwilio am y dringwyr yn dilyn y ddamwain fore dydd Mawrth, a hynny yn ystod tywydd garw.