Bydd gŵyl arbennig yn cael ei chynnal yn ne Ceredigion yr wythnos nesaf er mwyn cofio am y digrifwr a’r cenedlaetholwr, Eirwyn Pontsiân.
Bu farw’r saer coed o Ddyffryn Cletwr ym mis Chwefror 1994, ond mae’n dal i gael ei gofio fel y digrifwr a swynodd lawer mewn tafarndai ac eisteddfodau ledled y wlad gyda’i straeon digri ac absẃrd.
Yn ôl un o drefnwyr Gŵyl Eirwyn, a fydd yn cael ei chynnal dros gyfnod o dri diwrnod (Mawrth 18, 22, 23) yn ardaloedd Talgarreg a Ffostrasol, mae’r digwyddiad yn gyfle i atgoffa pobol i “beidio â chymryd ein hunain gormod o ddifrif”.
Cofio’r digrifwch
Bydd yr ŵyl ei hun yn cynnwys darlith gan Lyn Ebenezer, un o gyfeillion pennaf Eirwyn Pontsiân; sioeau comedi gan Mair Tomos Ifans ac Ysgol Gynradd Talgarreg, taith fws o gwmpas ‘Bro Eirwyn’, a chyngerdd fawreddog gan dalentau lleol.
“Mae’n ddyddiau eithaf du yn wleidyddol, gyda Brexit ar y gorwel, ac roedden ni’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n cael cyfle i gael pethau doniol a hwyl,” meddai Cen Llwyd wrth golwg360.
“Rydyn ni hefyd wedi canolbwyntio ar blant ysgol a phobol ifanc i fod yn rhan o’r ŵyl. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw ddim wedi nabod Eirwyn a ddim wedi cwrdd ag ef erioed.
“Mae’n gyfle i’w hatgoffa nhw a thynnu eu sylw nhw at bwy oedd Eirwyn a’i ddoniolwch.”
Eirwyn Pontsiân – “un o bobol yr ymylon”
Daeth y gŵr â’r mwstash trwchus a’r cap gwyn ar ei ben i enwogrwydd yn ystod yr 1960au a’r 1970au yn sgil ei berfformiadau byrfyfyr mewn tafarndai ledled Cymru.
Mae tair cyfrol o’i straeon wedi cael eu cyhoeddi gan wasg Y Lolfa, sef Hyfryd Iawn yn 1966, Twyll Dyn yn 1982, a Hiwmor Pontshân yn 2007.
“Roedd Eirwyn yn un o bobol yr ymylon,” meddai Cen Llwyd ymhellach.
“Mae yna lawer iawn yn cyfeirio at y ffaith bod yna sbri mawr wedi bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar hyd y blynyddoedd pan oedd Eirwyn yn bresennol. Ond ar yr ymylon roedd y rheiny.
“Doedd dim cyhoeddiadau na phosteri o flaen llaw yn dweud y bydde fe ´na, jyst troi lan i ddifyrru pobol.
“Dyna beth oedd Eirwyn yn ei wneud ore.”
Dyma Cen Llwyd yn dweud rhagor am fywyd y digrifwr…